Cyngor Cymuned Trefeurig

Dewch o hyd i wybodaeth am ein cyfrifoldebau, agendâu a chofnodion ein cyfarfodydd.

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Trefeurig.

Fe grewyd plwyf sifil Trefeurig, a’i gyngor etholedig yn 1894 trwy ddeddf llywodraeth leol . Lleuhawyd ei maent dan ad-drefniant llywodraeth leol yn 1987 a chreu uned fwy cryno, “Cymuned Trefeurig” bellach yn hytrach na “Plwyf Trefeurig”, yn ymestyn o Gogerddan hyd at y Fuwch a’r Llo ar yr heol fynydd i Bonterwyd. O dan yr un ddeddf ychwanegwyd at Gymuned Trefeurig y rhan fwyaf o hen blwyf sifil Parsel Canol a darn o Dir-y-mynach.

Mae Trefeurig yn cynnwys holl bentref Penrhyn-coch a’r pentrefi bychain Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Salem, Llwyn-prysg, Cefn-llwyd, Bancydarren ac ychydig o Gapel Dewi.

Yn ôl cyfrifiad 2021 poblogaeth yr ardal oedd 1800.

Mae’r Cyngor Cymuned yn cyfarfod ar drydydd nos Fawrth y mis (ac eithrio misoedd Awst a Rhagfyr) am 6.30yh yn Neuadd Penrhyncoch. Mae ein cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso i unrhyw un fynychu mewn person neu dros y rhyngrwyd. Cynhelir ein cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg fel rheol. Am fwy o wybodaeth am ein cyfarfodydd cysylltwch â’r clerc drwy’r manylion ar y dudalen cyswllt.

Dylai pawb sy’n mynychu cyfarfodydd o’r Cyngor Cymuned glynnu at Rheolau Sefydlog y Cyngor.

Cynghorwyr

Darllen pwy yw ein Cynghorwyr Cymunedol ar gyfer Trefeurig, gan gynnwys ein Cadeirydd a’n Is-Gadeirydd.

Agendâu

Darllenwch agendâu cyfarfodydd sydd i ddod ar y dudalen hon, fel eich bod yn gwybod beth sydd i ddod yn y Cyngor nesaf.

Cofnodion

Darllenwch holl gofnodion y Cyngor Cymuned ar gyfer pob cyfarfod ar y dudalen hon.

Grantiau

Darllenwch am ein grantiau cymunedol, cymhwysedd a sut i wneud cais ar y dudalen hon.

Am Gyngor Cymuned Trefeurig

Sefydlwyd Plwyf Sifil Trefeurig ym 1894 ac y mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael oddi ar hynny. Mae Cymuned Trefeurig yn cynnwys Penrhyn-coch, Salem, Penrhiwnewydd, Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Banc y Darren, Cefn-llwyd, Capel Madog a rhan o Gapel Dewi. Cynrychiolir yr ardal gan un ar ddeg o gynghorwyr a chynhelir etholiadau bob pedair blynedd.

Mae’r aelodau yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir ganddynt yn sgil eu hymwneud â gweithgarwch yn y gymuned ehangach a’u haelodaeth ar bwyllgorau lleol, cymdeithasau chwaraeon a hamdden, mannau o addoliad, clybiau cymdeithasol, byrddau llywodraethol ysgolion cynradd, ac yn y blaen, i ymateb i anghenion lleol ac i bwyso am newidiadau a gwelliannau lle mae hynny’n bosibl, yn enwedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r ffyrdd ac â’r amgylchedd, ac â materion cyfraith a threfn drwy ymgynghori â’r heddlu lleol.

Gwahoddir y Cyngor i roi sylwadau ar faterion cynllunio sy’n berthnasol i’r gymuned ac ar ddogfennau ymgynghorol a gyhoeddir gan Gyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Heddlu ac awdurdodau cyhoeddus eraill.

Mae’r Cyngor yn cyfarfod ar y drydedd nos Fawrth yn y mis am 7.30 o’r gloch, a hynny yn Neuadd y Penrhyn, Penrhyn-coch. Mae agenda pob cyfarfod yn cael ei arddangos ymlaen llaw ar hysbysfyrddau’r Gymuned. Cedwir y cofnodion yn Gymraeg ac yn Saesneg a chyhoeddir adroddiadau o’r cyfarfodydd yn y Cambrian News a’r Tincer.